SL(6)714 – Rheoliadau Datganiadau Blynyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”), a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”). Maent hefyd yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019, sy’n codi o newidiadau i adran 48 o Ddeddf 2016 a gyflwynwyd gan adran 14(3)(c) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”).
Mae’r diwygiadau i Reoliadau 2017 yn adlewyrchu darpariaethau a fewnosodwyd yn Neddf 2016 gan Ddeddf 2025 ynghylch rheoleiddio “gwasanaethau plant o dan gyfyngiad”. Mae’r term hwn wedi ei ddiffinio yn adran 2A o Ddeddf 2016. Mae rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd 6A yn Rheoliadau 2017. Mae’r ddarpariaeth newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau (heblaw awdurdodau lleol) sy’n darparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad gynnwys yn eu datganiad blynyddol ddatganiad sy’n cadarnhau eu bod yn parhau i fodloni’r gofyniad yn adran 6A(1) o Ddeddf 2016.
Mae adran 6A(1) o Ddeddf 2016 yn darparu na chaniateir i berson nad yw’n awdurdod lleol ond cael ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad os yw’n endid nid-er-elw. Nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sy’n esempt rhag adran 6A yn rhinwedd paragraff 2(4) o Atodlen 1A i Ddeddf 2016. Yn unol â hynny, adlewyrchir y sefyllfa hon ym mharagraff (2) o reoliad 6A.
Mae rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 10 o Reoliadau 2017 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyhoeddi eu datganiadau blynyddol ar eu gwefannau. Yn ogystal â’r rhwymedigaeth bresennol i gyflwyno datganiadau blynyddol o fewn amserlen benodol, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau bellach sicrhau bod y datganiad blynyddol ar gael i’r cyhoedd ar eu gwefan o fewn 91 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 4 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019. Mae hyn yn adlewyrchu’r newid a wnaed gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 i bennawd adran 48 o Ddeddf 2016, sydd bellach yn cyfeirio at gyhoeddi, yn ogystal â chyflwyno, datganiadau blynyddol.
Gweithdrefn
Gweithdrefn Gymeradwyo’r Senedd
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Rydym yn nodi bod y rheoliadau hyn wedi'u gosod gerbron Senedd Cymru yn unol â gweithdrefn gymeradwyo'r Senedd a'u bod yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.
Nid yw un o'r pwerau galluogi y dibynnir arnynt, adran 10(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016, mewn grym eto. Mewnosodwyd adran 10(1)(b) gan adran 14(2)(a) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025. Mae Erthygl 3(2)(a) o Orchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2025 yn darparu bod adran 14 (ac eithrio adran 14(2)(c)) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026, yr un dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Mae adran 16 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn darparu y caniateir arfer pŵer o dan ddarpariaethau is-offerynnau cyn i'r darpariaethau hynny ddod i rym.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
20 Ionawr 2026